Adref


1/12
2/12
3/12
4/12
5/12
6/12
7/12
8/12
9/12
10/12
11/12
12/12



Mae Hafotty Ganol wedi’i leoli ymhlith bryniau tawel ar ochrau dwyreiniol Mynyddoedd Berwyn yng nghanolbarth Cymru. Mae'r bwthyn gwyliau hunangynhwysol wedi’i gysylltu â chartref y perchennog ac yn edrych allan ar ardd a choedwigoedd sy'n llawn adar. Dyma le hyfryd i bwyllo, ymlacio a mwynhau natur. Mae’r bwthyn yn cynnwys ystafell fwyta ac ystafell haul yn un, sy’n cael digon o awyr, ac yn arwain i mewn i lolfa a chegin llawn offer. Mae’r teils chwarel gyda gwres dan y llawr yn cadw'r bwthyn yn gynnes ar ddiwrnodau oer. Mae yna ystafell wely gyda gwely maint brenin ac ystafell gawod i fyny’r grisiau. Darperir yr holl lieiniau a thywelion. Mae yna beiriant golchi/sychu, peiriant golchi llestri, teledu a chwaraewr DVD. Nid oes gennym signal teledu ond os dewch chi â gliniadur gyda chi, gallwch wylio rhaglenni teledu trwy Wifi. Mae gennym ddetholiad eang o DVDs, llyfrau, gemau a phosau jig-so ar gyfer adloniant gyda'r nos. Mae gwely achlysurol ar gael, sy'n addas ar gyfer plentyn.

Mae gennym ardd lawnt gaeedig gydag ardal eistedd allan â dodrefn gardd. Y tu hwnt i hynny, mae 2.5 erw o dir naturiol (wedi'i rannu gyda'r perchnogion). Nodwch os oes gennych blant bach bod nant fach yn rhedeg ychydig y tu hwnt i'r ardd wedi'i ffensio. Ni chaniateir ysmygu yn y bwthyn hwn.

Rydym yn croesawu hyd at ddau anifail anwes sy'n ymddwyn yn dda. Yn y gorffennol, rydym wedi cael Daeargwn Efrog (Yorkshire Terriers) i Bwdls Enfawr yn aros gyda ni, yn ogystal â dwy gath hyfryd a aeth am dro ar dennyn gyda'u perchnogion. Mae ein Sbaniel, Cadi, wrth ei bodd ag ymwelwyr gyda phedwar coes er nad yw’r rhai hŷn bob amser eisiau chwarae gyda hi! Mae'r perchnogion, Bridget a Will, yn rhedeg tyddyn gydag ieir, gwyddau a gwenyn sy'n fforio yn y berllan a'r coed. Ar ochr arall y lôn mae ffin coetir cymunedol a gwarchodfa natur gyda chaeau heb ddefaid (am lawer o’r flwyddyn) i gerdded cŵn a mwynhau'r golygfeydd panoramig. Mae sawl taith gerdded arall yn dechrau o'r tŷ (rhai ohonynt yn mynd trwy borfeydd defaid felly mae angen i gŵn fod ar dennyn wrth gerdded trwy’r rhain) ac eraill dim ond taith fer i ffwrdd.

Mae digonedd o atyniadau hanesyddol yn y rhan hon o Gymru, gyda Chastell Harlech a Chastell Caernarfon i'r gorllewin, Castell Powys, Castell y Waun a Thŷ Gwledig Erddig i'r dwyrain. Mae gan yr ardal sawl eglwys ddiddorol a hardd fel Melangell a Llanyblodwel ac mae olion aneddiadau a henebion o'r Oes Haearn i'r rhai sydd â diddordeb mewn archeoleg. Mae un o 'Saith Rhyfeddod Cymru' gerllaw - sef Rhaeadr Pistyll. Uchder y rhaeadr yw 80 troedfedd sy’n golygu mai Pistyll yw’r rhaeadr dŵr sengl uchaf yn y DU. Hefyd, mae golygfa drawiadol Llyn Efyrnwy yn agos, gyda'i argae Fictoraidd enfawr. Yma gallwch chi dreulio'r diwrnod yn cerdded o amgylch perimedr y llyn neu logi beic, ymweld â chuddfannau’r RSPB, neu fwynhau cinio yn un o'r caffis. Yn y Trallwng, ewch am dro i Gastell Powys (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a'i erddi trawiadol, neu ewch ar daith ar reilffordd stêm y Trallwng a Llanfair. I'r gorllewin mae'r Bala, lle gallwch fwynhau chwaraeon dŵr yn Llyn Bala (y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru) ac yn y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol.

Ychydig ymhellach i ffwrdd, mae’r atyniadau adrenalin diweddaraf, Zip World a Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog o fewn cyrraedd. Mae golygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri o fewn taith fer yn y car, ac yn eich denu chi draw tuag at y traethau tywodlyd gogoneddus o amgylch Abermaw.       Mae’r holl bethau sylfaenol y byddwch chi eu hangen ar gael yn y pentrefi lleol, ond os byddwch chi eisiau rhagor o gyfleusterau siopa, mae Croesoswallt a’r Trallwng yn ddigon agos. Cynhelir Marchnad Ffermwyr wythnosol ar fore Iau yn Llanfyllin, sydd bedair milltir i lawr y ffordd. Mae sawl tafarn yn yr ardal sy'n gweini cwrw a phrydau bwyd da.

      Cymwysterau Gwyrdd: Rydym ni’n gweithio'n galed i ddilyn ffordd ddi-garbon o fyw a byddem yn gwerthfawrogi pe bai ein gwesteion yn ein helpu gyda hyn trwy ailgylchu a lleihau eu defnydd o blastig untro. Mae yna lawer o gynhyrchion bwyd lleol y byddem yn falch o'u stocio ar gyfer gwesteion pe baent yn gofyn amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys:       Wyau, mêl, llaeth, bara, selsig, bacwn, cig oen, cig eidion, jamiau a siytni, ffrwythau a llysiau tymhorol, sudd afal, sudd gellyg a gwirod gwrych. Gofynnwch am restr fanwl o argaeledd a phrisiau. Rydym hefyd yn cynhyrchu amryw o gynhyrchion cŵyr gwenyn ar ein tyddyn fel canhwyllau a pholish.

      Cyfarwyddiadau O Lanfyllin: Ewch i'r gorllewin ar yr A490 sy'n newid i’r B4391 ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin. Dilynwch y ffordd i fyny bryn hir (tua dwy filltir), ger ei gopa mae cyffordd â'r B4580. Arhoswch ar y briffordd am filltir a throwch i'r chwith ar lôn fach ger clwstwr o goed bytholwyrdd. (Os byddwch chi'n dechrau mynd i lawr bryn hir ar y briffordd rydych chi wedi colli'r tro.) Mae Hafotty Ganol tua 0.9 milltir ar hyd y lôn ar y chwith. Mae'r bwthyn â’i gefn at y lôn.

      O Lanrhaeadr-ym-mochnant a'r B4396: Dilynwch y B4396 i'r gorllewin i'r gyffordd T gyda'r B4391. Trowch i'r chwith tuag at Lanfyllin. Byddwch chi'n cyrraedd pentref Penygarnedd yn fuan. Mae'r briffordd yn troi’n sydyn i'r dde ac yna i'r chwith. Ar y tro chwith, mae hen gapel ar y dde a lôn yn mynd i fyny'r bryn o'ch blaen. Ewch i fyny'r lôn hon am oddeutu ¾ milltir a chymerwch y troad cyntaf i'r chwith. Mae Hafotty Ganol ¾ milltir ar hyd y lôn hon ar y dde. Mae'r bwthyn â’i gefn at y lôn.       O'r Bala: Ewch i'r dwyrain ar y B4391 a chroeswch dros fynyddoedd y Berwyn (mae'n daith hyfryd). Ar ochr ddwyreiniol y mynyddoedd byddwch yn mynd trwy Langynog a Phen-y-bont-fawr. Yn fuan ar ôl Pen-y-bont-fawr, byddwch yn mynd i mewn i Benygarnedd. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.

Ar gyfer pob ymholiad archebu, e-bostiwch Will at: WillDenne@icloud.com